Neidio i'r cynnwys

Lil Nas X

Oddi ar Wicipedia
Lil Nas X
FfugenwLil Nas X Edit this on Wikidata
GanwydMontero Lamar Hill Edit this on Wikidata
9 Ebrill 1999 Edit this on Wikidata
Lithia Springs Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Records, Columbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Lithia Springs
  • Prifysgol Gorllewin Georgia Edit this on Wikidata
Galwedigaethrapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOld Town Road Edit this on Wikidata
Arddullhip hop, country rap, cerddoriaeth boblogaidd, trap music, pop rap Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gerdd america am yr Hoff Gân Rap/Hip-Hop, Gwobr Grammy am y Perfformiad Pop Dau Berson neu Grwp Gora, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, MTV Video Music Award for Best Direction, Teen Choice Award for Choice Music – R&B/Hip-Hop Song, MTV Europe Music Award for Best Video, Gwobr Time 100, Premios Odeón Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.welcometomontero.com/ Edit this on Wikidata

Rapiwr, canwr a chyfansoddwr Americanaidd yw Lil Nas X, a anwyd ar 9 Ebrill 1999; ei enw gwreiddiol yw Montero Lamar Hill. Daeth yn enwog trwy ryddhau'r sengl rap gwledig "Old Town Road", a ddaeth i boblogrwydd yn firol yn gyntaf ar yr app TikTok yn gynnar yn 2019, cyn dringo siartiau cerddoriaeth yn rhyngwladol. Erbyn Tachwedd yr un flwyddyn gwerthodd dros 10 miliwn gopi.

Cyrhaeddodd "Old Town Road" top y siart Billboard Hot 100 ac arhosodd yno am 19 wythnos, yn dod y gân rhif un hiraf ers i'r siart dechrau ym 1958.[1] Rhyddhawyd sawl ailgymysgiad o’r gân: roedd y mwyaf poblogaidd yn cynnwys y canwr gwlad Billy Ray Cyrus. Cyhoeddodd Lil Nas X ei fod yn hoyw pan oedd "Old Town Road" ar frig y siart Hot 100, yr unig ganwr i wneud hynny wrth gael record rhif un.[2] Yn dilyn llwyddiant "Old Town Road", rhyddhaodd Nas X ei EP cyntaf, o'r enw 7, a rhyddhaodd ddwy sengl arall⁠. Cafodd "Panini" ei uchafbwynt yn rhif 5 ar y siart Hot 100, a chafodd "Rodeo" ei uchafbwynt yn rhif 22.

Lil Nas X oedd yr artist gwrywaidd i gael y mwyaf o enwebiadau yn y 62ain Gwobrau Grammy.[3] Enillodd wobrau am y Fideo Cerddoriaeth Orau a'r Perfformiad Deuawd Pop / Grŵp Pop Gorau. Enillodd "Old Town Road" ddwy Wobr Cerddoriaeth Fideo MTV gan gynnwys Cân y Flwyddyn a Gwobr Cerddoriaeth America am Hoff Gân Rap / Hip Hop. Ef yw'r artist LHDT cyntaf, a'r unig artist sy'n agored yn hoyw i ennill gwobr Cymdeithas Cerddoriaeth Gwlad.[4] Gwnaeth Time ei henwi fel un o'r 25 o bobl fwyaf dylanwadol ar y rhyngrwyd yn 2019.[5] Yn ogystal, cafodd sylw ar restr Forbes 30 dan 30 yn 2020.[6]

2015–2017: Personoliaeth Rhyngrwyd

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ynysu ei hun rhag "gweithgareddau y tu allan i'r dosbarth" yn ystod ei arddegau. Treuliodd lawer iawn o amser ar-lein yn y gobaith o adeiladu dilyniant fel personoliaeth rhyngrwyd i hyrwyddo ei waith, ond roedd yn ansicr beth i ganolbwyntio arno'n greadigol. Mewn cyfweliad Rolling Stone nododd, "Roeddwn i'n gwneud fideos comedi ar Facebook, yna symudais draw i Instagram, ac yna mi wnes i neidio ar Drydar... lle roeddwn i wir yn feistr. Dyna oedd y lle cyntaf i mi fynd yn firol."[7] Erbyn Awst 2019 roedd gan Lil Nas X 2.3 miliwn o ddilynwyr ar Drydar; pedair miliwn o ddilynwyr ar Instagram; 5.2 miliwn o danysgrifwyr ar YouTube, a thros 44 miliwn o wrandawyr misol ar Spotify.[8]

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth greu a rhedeg cyfrifon ffan Nicki Minaj ar Drydar, gan gynnwys un o'r enw "@NasMaraj", yn ôl ymchwiliad yn y cylchgrawn New York.[9][10]

Yna, daeth gerddoriaeth yn llwybr i lwyddiant ar gyfer Lil Nas X, a dechreuodd ysgrifennu a recordio caneuon yn ei stafell.[11] Mabwysiadodd yr enw Lil Nas X, sy'n deyrnged i'r rapiwr Nas.[12]

2018-2019: Llwyddiant "Old Road Town" a'r EP 7

[golygu | golygu cod]

Ar 3 Rhagfyr 2018, rhyddhaodd Lil Nax X y gân rap gwlad "Old Town Road". Prynodd e guriad (beat) y gân yn ddienw ar sion ar-lein gan y cynhyrchydd o'r Iseldiroedd YoungKio am $30;[13] mae'n samplu trac Nine Inch Nails "34 Ghosts IV".[14] Fe recordiodd mewn stiwdio Atlanta, CinCoYo, yn cymryd mantais o'i chynnig "$20 Tuesdays", a chymerodd llai nag awr i'w recordio.[15] Dechreuodd Lil Nas X greu memes i hyrwyddo "Old Town Road" cyn daeth yn boblogaidd ar TikTok.[16] Mae TikTok yn annog ei 500 miliwn o ddefnyddwyr byd-eang i "ddynwared yn ddiddiwedd," gyda fideos yn cynhyrchu copïau fel arfer yn defnyddio'r un gerddoriaeth; mae'r ffaith bod yr ap yn allbynnu gymaint o gynnwys yn gweithredu helpu magu llwyddiannau cerddoriaeth firaol.[17] Dechreuodd yn rhif 83 ar siart Billboard Hot 100, a ddringodd i rif un yn y pen draw.[18]

Cefnogodd y seren cerddoriaeth gwlad Billy Ray Cyrus "Old Town Road",[19] a daeth yn ganwr gwadd mewn ailgymysgiad o'r trac yn Ebrill 2019.[20]

Rhyddhaodd Lil Nas X ei EP cyntaf, 7, ar 21 Mehefin 2019.[21] Aeth yr EP i rif dau ar siart Billboard 200.[22] Ar 30 Mehefin, gwnaeth Nas X ei ymddangosiad cyntaf yn rhyngwladol yng ngŵyl awyr agored mwyaf y byd, Gŵyl Glastonbury flynyddol y DU, pan wnaeth ef a Billy Ray Cyrus ymddangosiad annisgwyl ac ymuno â Miley Cyrus ar gyfer y gân, cyn perfformio ei sengl unawd newydd "Panini".[23]

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Montero Lamar Hill yn Lithia Springs, Georgia,[24] dinas fach y tu allan i Atlanta, ar 9 Ebrill 9 1999.[25] Ysgarodd ei rieni pan oedd yn chwech oed,[26] ac ymgartrefodd ym mhrosiect tai Bankhead Courts gyda'i fam a'i nain. Tair blynedd yn ddiweddarach, symudodd i fyw gyda'i dad, canwr efengyl, i'r gogledd o'r ddinas yn Austell, Georgia.[26][27] Mynychodd Ysgol Uwchradd Lithia Springs a graddiodd yn 2017.[28] Mynychodd Brifysgol Gorllewin Georgia am flwyddyn cyn gadael i ddilyn gyrfa gerddorol. Yn ystod yr amser hwn, arhosodd gyda'i chwaer a gweithiodd ym mwytai Zaxby ac ym mharc thema Six Flags Over Georgia.[27]

Yn gynnar ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Lil Nas X ei fod yn hoyw i'w chwaer a'i dad, ac roedd yn teimlo bod y bydysawd wedi rhoi arwyddo iddo wneud hynny er gwaethaf ei ansicrwydd a fyddai ei gefnogwyr yn dal i'w gefnogi ai peidio.[11] Ar 30 Mehefin, 2019, diwrnod olaf y Mis Balchder Hoyw, cyhoeddodd Lil Nas X yn gyhoeddus ei fod yn hoyw,[29][30] gan drydar: "mae rhai o'r bobl eisoes yn gwybod, nid yw rhai o'r bobl yn poeni, bydd rhai ohonoch ddim wedi eisiau unrhyw beth i wneud gyda fi rhagor. ond cyn i'r mis hwn ddod i ben rydw i eisiau i chi wrando'n agos ar c7osure.[31] Y diwrnod nesaf fe drydarodd eto, y tro hwn yn tynnu sylw at yr adeilad lliw enfys ar gelf clawr ei EP 7, gyda'r pennawd yn darllen "roeddwn yn meddwl fy mod wedi ei wneud yn amlwg".[32][33] Mewn cyfweliad sawl diwrnod yn ddiweddarach ar BBC Breakfast roedd llawer llai amwys, nododd ei fod yn hoyw ac yn deall nad yw ei rywioldeb yn cael ei dderbyn yn hawdd yn y cymunedau cerddoriaeth gwlad na rap.[34] Roedd yr ymateb i'r newyddion yn gadarnhaol ar y cyfan, ond hefyd cafodd llawer o adlach homoffobig ar y cyfryngau cymdeithasol.[33] Daeth yr adlach hefyd o'r gymuned hip hop, gan dynnu sylw at homoffobia mewn diwylliant hip hop.[35] Ym mis Ionawr 2020, gwnaeth y rapiwr Pastor Troy rai sylwadau homoffobig ar y wisg a wisgodd Lil Nas X yn ystod y Gwobrau Grammy, ac ymatebodd Nas X iddo'n ddigyffro: "Dam rwy'n edrych yn dda yn y llun hwnnw."[36][37][38][39][40]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Lil Nas X hit 'Old Town Road' makes Billboard charts history". Associated Press (yn Saesneg). 13 Awst 2019. Cyrchwyd 29 Awst 2019.
  2. Thompson, Paul (17 Gorffennaf 2019). "Lil Nas X Is Strategically Closing in on History". Vulture. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2019.
  3. Warner, Denise (20 Tachwedd 2019). "2020 Grammy Nominees: The Complete List". Billboard. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2019.
  4. Bollinger, Alex (14 Tachwedd 2019). "Lil Nas X is the first out gay person to win a Country Music Award". LGBTQ Nation. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2019.
  5. "The 25 Most Influential People on the Internet". Time (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-08.
  6. Greenburg, Zack O'Malley. "Lil Nas X, Normani, Maluma And The 30 Under 30 Music Class Of 2020". Forbes (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-05.
  7. Nilles, Billy (2 Awst 2019). "Why Lil Nas X Breaking Records Is Such a Big Deal". E! Online. Cyrchwyd 3 Awst 2019.
  8. Sloan, Elizabeth (26 Awst 2019). "Lil Nas X's Real Name Is Montero Lamar Hill". Heavy. Cyrchwyd 29 Awst 2019.
  9. Feldman, Brian (5 Ebrill 2019). "Before 'Old Town Road,' Lil Nas X Was a Tweetdecker". New York Magazine. Cyrchwyd 5 Ebrill 2019.
  10. Reinstein, Julia (5 Ebrill 2019). "Lil Nas X Used To Be A Tweetdecker". BuzzFeed News. Cyrchwyd 3 Medi 2019.
  11. 11.0 11.1 Chow, Andrew R. (15 Awst 2019). "'It Feels Like I'm Chosen to Do This.' Inside the Record-Breaking Rise of Lil Nas X". Time (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Awst 2019.
  12. Prahl, Amanda (2 Gorffennaf 2019). "His Name Pays Tribute to a Famous Rapper". PopSugar. Group Nine Media. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2019.
  13. Pamela Engel (31 Mai 2019). "Lil Nas X's country-trap hit 'Old Town Road' samples a Nine Inch Nails song — and the band might have a claim to some of the royalties". Cyrchwyd 24 Mehefin 2019.
  14. Cirisano, Tatiana (22 Mawrth 2019). "'Old Town Road' Rapper Lil Nas X Signs to Columbia Records". Billboard. Cyrchwyd 29 Mawrth 2019.
  15. King, Gayle (30 Medi 2019). "Lil Nas X takes Gayle King inside the studio where he recorded "Old Town Road"" (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Hydref 2019.
  16. "Lil Nas X on "Old Town Road" and the Billboard Controversy". Time. Cyrchwyd 2020-10-15.
  17. Zhang, Cat (13 Tachwedd 2019). "The Anatomy of a TikTok Hit". Pitchfork (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2019.
  18. Kellner, Xander. "Spurred by a TikTok Meme, Lil Nas X Scores First Billboard Hot 100 Hit With 'Old Town Road'". Billboard.
  19. Cyrus, Billy Ray (3 Ebrill 2019). ".@LilNasX Been watching everything going on with OTR. When I got thrown off the charts, Waylon Jennings said to me "Take this as a compliment" means you're doing something great! Only Outlaws are outlawed. Welcome to the club!". @billyraycyrus. Cyrchwyd 6 Ebrill 2019.
  20. Sisario, Ben (5 Ebrill 2019). "Lil Nas X Added Billy Ray Cyrus to 'Old Town Road.' Is It Country Enough for Billboard Now?". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 5 Ebrill 2019.
  21. "Lil Nas X: 7 EP". Pitchfork. Cyrchwyd 26 Mehefin 2019.
  22. "The Raconteurs Land First No. 1 Album on Billboard 200 Chart With 'Help Us Stranger'". Billboard. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2019.
  23. "Miley Cyrus Bring Out Lil Nas X and Billy Ray Cyrus to Play "Old Town Road" at Glastonbury: Watch". Spin. 2019-06-30. Cyrchwyd 2020-10-15.
  24. Najja Parker. ""I'm not angry": Lil Nas X addresses those who bullied him for coming out". The Atlanta Journal-Constitution (yn English). Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  25. Chow, Andrew R. (5 Ebrill 2019). "Lil Nas X Talks 'Old Town Road' and the Billboard Controversy." Time. Retrieved 6 Ebrill 2019.
  26. 26.0 26.1 Chow, Andrew R. (15 Awst 2019). "'It Feels Like I'm Chosen to Do This.' Inside the Record-Breaking Rise of Lil Nas X". Time (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Awst 2019.
  27. 27.0 27.1 Eels, Josh (20 Mai 2019). "Lil Nas X: Inside the Rise of a Hip-Hop Cowboy". Rolling Stone. Cyrchwyd 20 Mai 2019.
  28. Daniel, Ron (11 Ebrill 2019). "Lithia grad Lil Nas X has top song in America". Douglas County Sentinel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-26. Cyrchwyd 22 Ebrill 2019.
  29. Minsker, Evan (1 Gorffennaf 2019). "Lil Nas X Comes Out as Gay". Pitchfork. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2019.
  30. Nordyke, Kimberly (30 Mehefin 2019). "Rapper Lil Nas X Seemingly Comes Out as Gay".
  31. Lil Nas X (30 Mehefin 2019). "nope on Twitter: "some of y'all already know, some of y'all don't care, some of y'all not gone fwm no more. but before this month ends i want y'all to listen closely to c7osure."". Twitter. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2019.
  32. "Lil Nas X Comes Out as Gay". Pitchfork. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2019.
  33. 33.0 33.1 Henderson, Cydney. "'Old Town Road' rapper Lil Nas X faces down homophobic comments after coming out". Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2019.
  34. "Watch: In New Interview, Rapper Lil Nas X Says He's Faced Backlash After Coming Out as Gay". EDGE Media Network (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-07. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2019.
  35. Marie, Aurielle. "Beyond Expectations Lil Nas X Forges a Freer, More Fluid Hip Hop". Bitch Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-12. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.
  36. Lil Nas X Responds To Pastor Troy's Homophobic Rant In A Very Lil Nas X Way vibe.com, 30 Ionawr 2020
  37. Lil Nas X Shut Down This Rapper's Homophobic Comments in the Best Way pride.com, Taylor Henderson, 29 Ionawr 2020
  38. Lil Nas X looked too good at the Grammys to worry about Pastor Troy’s homophobic comments metro.co.uk, Emma Kelly, 31 Ionawr 2020
  39. Lil Nas X responds to homophobic rant from rapper Pastor Troy
  40. Lil Nas X Responds to Pastor Troy's Homophobic Post